Lucius Aelius Stilo Praeconinus
Lucius Aelius Stilo Praeconinus | |
---|---|
Ganwyd | 154 CC Lanuvium |
Bu farw | 74 CC Unknown |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | llenor, ieithegydd, athronydd, gramadegydd |
Mudiad | stoicism |
Tad | Unknown |
Mam | Unknown |
Roedd Lucius Ælius Stilo Præconinus neu Ælius (c.150 CC - c.80 CC) yn ramadegydd Rhufeinig a anwyd yn Lanuvium.
Roedd yn perthyn i ddosbarth yr eques (marchogion) ac yn gyfaill i'r bardd Lucilius; cyflwynodd lyfr cyntaf ei Satirii iddo.
Cafodd y llysenw Stilo (o'r Lladin stilus, "stylus, pensil") am ei fod yn ysgrifennu areithiau ar gyfer ffigyrau cyhoeddus a'r llysenw Præconinus am mai præco (datgeinydd newyddion cyhoeddus) oedd ei dad.
Yn sgîl ffrae wleidyddol treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth o Rufain tua 100 CC. Pan ddychwelodd cafodd swydd yn athro i Varro a Cicero.
Er ei fod yn hyddysg yn yr iaith Roeg a'i llenyddiaeth, ymroddodd i astudio'r llên Ladin gynharaf. Cyhoeddodd esboniadau ar Lyfrau Gweddi'r Offeiriaid Saliaidd a Deddfau'r Deuddeg Tabled (Cyfraith Rhufain). Fe'i anrhydeddwyd am ymdrechion i gadw gwybodaeth am yr Hen Ladin yn fyw. Heddiw rydym yn ddyledus i Ælius am yr ychydig ddarnau o Hen Ladin sydd wedi goroesi, y rhan fwyaf ohono mewn glossau ar ei waith sydd fel arall ar goll.